Griffith Davies
Arloeswr a Chymwynaswr
- Paperback
232 pages
- Release Date
15 April 2023
Summary
Dyma gyfrol sy’n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788–1855), o’i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i’w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i’r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ôl blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe’i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i’w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu’n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i’w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy’n ysbrydoli.
Book Details
| ISBN-13: | 9781837720316 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1837720312 |
| Author: | Haydn E. Edwards |
| Publisher: | University of Wales Press |
| Imprint: | Gwasg Prifysgol Cymru |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 232 |
| Release Date: | 15 April 2023 |
| Weight: | 362g |
| Dimensions: | 138mm x 216mm |
| Series: | Scientists of Wales |

You Can Find This Book In
Critics Review
Stori am gymeriad rhyfeddol y dylai pob Cymro ei chlywed. Ond mae’r gyfrol yn cynnig gymaint mwy. Cawn Griffith Davies yng nghyd-destun ei oes, ei gefndir, ei ffydd ar heriau a wynebodd, mewn ffordd eithriadol fyrlymus a byw. Diolch i Haydn Edwards am y gwaith pwysig hwn. Perl o lyfr. – Angharad Tomos, awdures
Haydn Edwards yw un o addysgwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Maen cael dil or pynciau y cafodd arbenigo ynddynt “ gan helpu ieuenctid Cymru i ddatblygu eu doniau. Dim rhyfedd, felly, iddo wirioni ar gampwaith gwas fferm o blwyf Llandwrog, na chafodd fawr ddim addysg, wrth ddod yn arweinydd byd ym maes asesu risg. Dylai hanes Griffith Davies ysbrydolir genedl. – Dafydd Wigley, gwleidydd
Portread rhagorol o lanc tlawd o fror chwareli yn Sir Gaernarfon yn dringo i fod yn actiwari gydar blaengaraf yn Llundain ei ddydd ywr llyfr hwn. Y maer awdur “ sydd yntau or un fro “ wedii drwytho nid yn unig ym mathemateg Griffith Davies, ond yn ei ddiwinyddiaeth ai foeseg yn ogystal, ac wedi rhoi inni fywgraffiad iw drysori. – Derec Llwyd Morgan, addysgwr
Haydn E. Edwards
Mae Haydn E. Edwards yn ysgolhaig annibynnol gyda chefndir mewn cemeg, addysg a rheolaeth.
Returns
This item is eligible for free returns within 30 days of delivery. See our returns policy for further details.



